| Cysylltwch â ni:
|
Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluoedd
Ffon: 01267 246555
Gwasanaeth tecst GGD: Dechreuwch eich neges gyda ‘Plant’ a’i anfon i 07786 202747
Ffacs: 01267 246745
e-bost gwybplant@sirgar.gov.uk
|
|
Cyflogaeth Addysg & Hyfforddiant
| Dysgu Bro Sir Gâr
| Ysgolion
| Estyn
| Dyslecsia
| Cefnogaeth Gwaith Cartref
| Cinio Ysgol
Isod mae rhai adnoddau sydd ar gael i alluogi rhieni fynd nôl i’r gwaith neu hyfforddiant.
Gyrfa Cymru Gorllewin
Mae Gyrfa Cymru yn wasanaeth Cymru gyfan sy'n rhoi gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd yn rhad ac am ddim i bobl o bob oedran.
Canolfan Byd Gwaith
Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn un o asiantaethau'r llywodraeth sy'n cynorthwyo pobl o oedran gwaith o fudd-dal i waith, ac yn helpu cyflogwyr i lenwi'u swyddi gwag.
Mae Learndirect yn asiantaeth e-ddysgu. Mae Learndirect yn gweithredu rhwydwaith o fwy na 750 o ganolfannau dysgu ar-lein yn Lloegr a Chymru. Maent yn darparu hyblyg yn y ffordd y maent yn annog pobl i ddysgu sgiliau newydd ac i wella ar ei sgiliau blaenorol.
Grwp Cyflogaeth Travail [ReAct]
Eich helpu nôl i weithio. A ydych wedi cael eich gwneud yn ddi-waith yn ddiweddar? Mae Cynllun gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi sefydlu prosiect i helpu pobl sydd wedi'u diswyddo i ganfod swydd newydd cyn gynted ag y bo modd. Enw'r Cynllun yma yw ReAct.
Mae cymorth o dan becyn cymorth ReAct ar gael i'r unigolion canlynol:
- Unigolion sydd wedi cael eu gwneud yn ddi-waith yn ystod y chew mis diwethaf oherwydd diswyddiad, unigolion sydd ar hyn o bryd yn ddi-waith ac sydd heb fod mewn swydd barhaol am chew wythnos neu fwy ers cael eu diswyddo; neu
- Unigolion sydd o dan rybudd diswyddiad; ac
- Unigolion sydd heb ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sy'n cael ei ariannu gan sefydliad cyhoeddus ers cael eu diswyddo, gan gynnwys y gyfres o raglenni dysgu seiliedig ar waith.
Am ragor o wybodaeth:
ReAct gan Lywodraeth Cynulliad Cymru
ReAct gan Gyrfa Cymru
Jobcentre PlusLearn Direct
Dysgu Bro Sir Gâr
Mae Dysgu Bro Sir Gâr yn rhan o adran Adran Addysg a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Gaerfyrddin. Ei nod yw darparu cyfleoedd dysgu i bobl Sir Gâr o fewn eu cymuned gyd yn i ddatblygu diddordebau, hefyd gweithio tuag at gymwysterau neu i wella ei sgiliau yn y gweithle.
Dysgu Bro
Courses for adults
NIACE Cymru

Ysgolion
Am fanylion cynhwysfawr ar Ysgolion Sir Gâr ewch i wefan www.Amdro.org.uk os gwelwch yn dda.
www.amdro.org.uk
Mae 'na amrywiaeth o systemau ar gael i gynorthwyo plant gyda AAA yn y sector cynradd a chyfun.
Gwisg Ysgol
Corff llywodraethu pob ysgol fydd yn penderfynu beth yw polisi'r ysgol o ran gwisg neu ffordd o wisgo. Os oes gennych unrhyw gwyn am y polisi gwisg ysgol neu ffordd o wisgo, siaradwch â chorff llywodraethu'r ysgol.
Help gyda chostau gwisg ysgol
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sefydlu cynllun ar gyfer darparu cymorth ariannol i rai teuluoedd ar incwm isel i brynu gwisg ysgol i'w plant pan fyddant yn trosglwyddo o ysgol gynradd i ysgol uwchradd. Gweinyddir y Cynllun gan Awdurdod Lleol Caerfyrddin ar ran y Cynulliad.
Telir y grant i ddisgyblion fydd yn dechrau ym Mlwyddyn 7 ysgolion uwchradd Sir Gâr a hefyd, bydd disgyblion fydd yn mynychu ysgolion arbennig, sefydliadau adnoddau anghenion arbennig a phlant fydd wedi cyrraedd 11 mlwydd oed ar ddechrau'r flwyddyn academaidd ac yn mynychu unedau cyfeirio plant yn deilwng i'r grant.
Am fanylion pellach ar grantiau sydd ar gael yn Sir Gâr cysylltwch â’r Adran Addysg Cyngor Sir Gâr ar 0845 658 0445
Estyn
Beth yw Estyn?
Estyn yw swyddfa Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Rydym yn wasanaeth arolygu annibynnol, dan arweiniad Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
Sut i gysylltu â Estyn:
Estyn
Llys yr Angor
Ffordd Keen
Caerdydd CF24 5JW
Ffôn: 029 2044 6446
Ffacs: 029 2044 6448
e-bost: ymholiadau@estyn.gsi.gov.uk am ymholiadau cyffredinol
www.estyn.gov.uk

Dyslecsia
Beth yw Ddyslecsia?
Dyslecsia yw anhawster wrth ddysgu darllen, ysgrifennu a sillafu a all gael ei achosi gan gyfuniad o ddiffygion seinyddol, prosesau clywedol a gweledol. Gall anawsterau adalw geiriau a chyflymder prosesu fod yn bresennol hefyd. Bydd arwyddion dyslecsia mewn unrhyw unigolyn yn dibynnu, nid yn unig ar wahaniaethau gwybyddol unigol, ond hefyd ar yr iaith a ddefnyddir. Mae pob unigolyn dyslecsig yn wahanol, a dylai gael ei drin fel unigolyn.
Prosiect Dyslecsia Cymru
Y nod yw cynnig cyngor a chymorth i unigolion dyslecsig a'r rhai sy'n cael trafferthion, ar draws Cymru, naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg.
www.welshdyslexia.org
Cefnogaeth Gwaith Cartref
Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn darparu Llinell Gymorth Cefnogi Gwaith Cartref. Mae'r gwasanaeth yma ar gael i ddisgyblion a'i rieni o Ddydd Sul i Ddydd Gwener 3 o'r gloch hyd 9 yr hwyr. Gellir cysylltu drwy ffonio 08712 300029, neu ddanfon neges destun i 07797 805607 neu e-bostio post@gwaithcartref.com neu post@homeworkinwelsh.com
Cymorth Gwaith cartref

Cinio Ysgol
Rhaid i'r holl fwyd a ddarperir gan awdurdodau lleol gyrraedd y safonau maeth cenedlaethol. Mae'r rhain yn sicrhau bod plant yn derbyn diet iach a chytbwys. Mae'r canlynol yn ofynnol dan y safonau newydd, a gyflwynwyd ym mis Medi 2006:
- Cig, dofednod neu bysgod olewog o ansawdd uchel ar gael yn rheolaidd
- O leiaf dau ddogn o ffrwythau a llysiau gyda phob pryd
- Bara, grawnfwyd arall a thatws ar gael yn rheolaidd
Hefyd, ceir rheolyddion ar y bwydydd canlynol:
- Mae bwydydd wedi'u ffrio wedi'u cyfyngu i ddau ddogn neu lai'r wythnos
- Mae diodydd melys, creision, siocled a phethau da eraill wedi'u tynnu o brydau bwyd a pheiriannau gwerthu mewn ysgolion.
Cyflwynwyd safonau pellach ar gyfer bwyd heblaw cinio ym mis Medi 2007.
Prydiau Ysgol am Ddim
Efallai y bydd eich plentyn yn gymwys i gael cinio neu laeth am ddim, neu y caiff ffrwythau a llysiau am ddim yn yr ysgol. Rhaid i awdurdodau lleol ddarparu cinio am ddim i blant cymwys, prydau y telir amdanynt os gofynnir am hynny, a goruchwyliaeth a chyfleusterau da er mwyn i blant fwyta'n ddiogel.
Mae prydau ysgol am ddim ar gael yn unig i'r plant hynny y mae eu rhieni/gwarcheidwaid yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)
- Cymorth o dan ran V1 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches
- Elfen Warant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth
- Credyd Treth Plant, ond NID YDYNT yn derbyn dim Credyd Treth Gwaith, ac nid yw eu hincwm blynyddol (yn ôl asesiad Cyllid y Wlad) yn fwy na £16,040 (o 6ed Ebrill 2009 ymlaen)
I ble ydw i'n gwneud cais am Brydau Ysgol am Ddim?
Mae'n rhaid gwneud cais i'r Awdurdod Lleol lle mae'r ysgol. Os yw'r plentyn yn mynychu ysgol yn Sir Gaerfyrddin, yna mae'n rhaid gwneud cais i'r adran ganlynol:
Adran Prydau Ysgol am Ddim
Cyngor Sir Caerfyrddin
Yr Adran Addysg a Phlant
Is-adran Busnes & Gwasanaethau Arbenigol
Pibwrlwyd
Caerfyrddin SA31 2NH
Sut ydyw’n gwneud cais am Brydau Ysgol am Ddim?
I wneud cais am Brydau Ysgol am Ddim gallwch:
Bocs Bwyd: Syniadau iachus ar gyfer bocs bwyd

|