Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin : Family Information Service Carmarthenshire
Cartref Pobl Ifanc
Plant a Theuluoedd
Proffesiynol
Partneriaeth
Cyfleuster Chwilio GGDlink
Englishlink
Carmarthenshire Partnership
Cysylltwch â ni:
Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluoedd
Ffon: 01267 246555
Gwasanaeth tecst GGD: Dechreuwch eich neges gyda ‘Plant’ a’i anfon i 07786 202747
Ffacs: 01267 246745
e-bost gwybplant@sirgar.gov.uk



Addysg a Hyfforddiant

| Dysgu Bro Sir Gâr | Ysgolion | Estyn | Dyslecsia | Cefnogaeth Gwaith Cartref | Cinio Ysgol


COASTAL Y Tîm Llwybrau Gyrfa

Helpu pobl ag anableddau a chyflyrau iechyd i gael gwaith a hyfforddiant.
Taflen COASTAL


Isod mae rhai adnoddau sydd ar gael i alluogi rhieni fynd nôl i’r gwaith neu hyfforddiant.

Tutor Hunt

Tutor Hunt provides a completely free service to both tutors and students to locate each other. It is used by thousands of parents/students and could be a useful resource.
www.tutorhunt.com

Gyrfa Cymru Gorllewin

Mae Gyrfa Cymru yn wasanaeth Cymru gyfan sy'n rhoi gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd yn rhad ac am ddim i bobl o bob oedran.

Genesis Cymru Wales 2

Nod y project yw cefnogi unigolion yn ein cymunedau sydd bellaf i ffwrdd o’r farchnad llafur, a darparu cefnogaeth megis adeiladu hyder, gofal plant, trafnidiaeth a chostau hyfforddi er mwyn iddynt gymryd eu camau cyntaf tuag at hyfforddiant ac yn y pendraw, cyflogaeth. Gellir cael cefnogaeth ar ffurf cyngor a chyfarwyddyd, mentora ac adeiladu hyder, a gellir cynnig cefnogaeth ariannol ar gyfer gofal plant, hyfforddiant, offer neu gostau cludiant.
Ffôn: 01557 744340
E-bost: genesis@sirgar.gov.uk

Canolfan Byd Gwaith

Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn un o asiantaethau'r llywodraeth sy'n cynorthwyo pobl o oedran gwaith o fudd-dal i waith, ac yn helpu cyflogwyr i lenwi'u swyddi gwag. Mae Learndirect yn asiantaeth e-ddysgu. Mae Learndirect yn gweithredu rhwydwaith o fwy na 750 o ganolfannau dysgu ar-lein yn Lloegr a Chymru. Maent yn darparu hyblyg yn y ffordd y maent yn annog pobl i ddysgu sgiliau newydd ac i wella ar ei sgiliau blaenorol.

Grwp Cyflogaeth Travail [ReAct]

Eich helpu nôl i weithio. A ydych wedi cael eich gwneud yn ddi-waith yn ddiweddar? Mae Cynllun gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi sefydlu prosiect i helpu pobl sydd wedi'u diswyddo i ganfod swydd newydd cyn gynted ag y bo modd. Enw'r Cynllun yma yw ReAct.

Mae cymorth o dan becyn cymorth ReAct ar gael i'r unigolion canlynol:
  • Unigolion sydd wedi cael eu gwneud yn ddi-waith yn ystod y chew mis diwethaf oherwydd diswyddiad, unigolion sydd ar hyn o bryd yn ddi-waith ac sydd heb fod mewn swydd barhaol am chew wythnos neu fwy ers cael eu diswyddo; neu
  • Unigolion sydd o dan rybudd diswyddiad; ac
  • Unigolion sydd heb ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sy'n cael ei ariannu gan sefydliad cyhoeddus ers cael eu diswyddo, gan gynnwys y gyfres o raglenni dysgu seiliedig ar waith.
Am ragor o wybodaeth:

ReAct gan Lywodraeth Cynulliad Cymru
ReAct gan Gyrfa Cymru
Jobcentre PlusLearn Direct


Dysgu Bro Sir Gâr

Mae Dysgu Bro Sir Gâr yn rhan o adran Adran Addysg a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Gaerfyrddin. Ei nod yw darparu cyfleoedd dysgu i bobl Sir Gâr o fewn eu cymuned gyd yn i ddatblygu diddordebau, hefyd gweithio tuag at gymwysterau neu i wella ei sgiliau yn y gweithle.


Dysgu Bro
Courses for adults
NIACE Cymru
top

Ysgolion

Am fanylion cynhwysfawr ar Ysgolion Sir Gâr ewch i wefan www.Amdro.org.uk os gwelwch yn dda.
www.amdro.org.uk

Mae 'na amrywiaeth o systemau ar gael i gynorthwyo plant gyda AAA yn y sector cynradd a chyfun.

Gwisg Ysgol

Corff llywodraethu pob ysgol fydd yn penderfynu beth yw polisi'r ysgol o ran gwisg neu ffordd o wisgo. Os oes gennych unrhyw gwyn am y polisi gwisg ysgol neu ffordd o wisgo, siaradwch â chorff llywodraethu'r ysgol.

Help gyda chostau gwisg ysgol

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sefydlu cynllun ar gyfer darparu cymorth ariannol i rai teuluoedd ar incwm isel i brynu gwisg ysgol i'w plant pan fyddant yn trosglwyddo o ysgol gynradd i ysgol uwchradd. Gweinyddir y Cynllun gan Awdurdod Lleol Caerfyrddin ar ran y Cynulliad. Telir y grant i ddisgyblion fydd yn dechrau ym Mlwyddyn 7 ysgolion uwchradd Sir Gâr a hefyd, bydd disgyblion fydd yn mynychu ysgolion arbennig, sefydliadau adnoddau anghenion arbennig a phlant fydd wedi cyrraedd 11 mlwydd oed ar ddechrau'r flwyddyn academaidd ac yn mynychu unedau cyfeirio plant yn deilwng i'r grant.

Am fanylion pellach ar grantiau sydd ar gael yn Sir Gâr cysylltwch â’r Adran Addysg Cyngor Sir Gâr ar 0845 658 0445


Estyn

Beth yw Estyn?


Estyn yw swyddfa Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Rydym yn wasanaeth arolygu annibynnol, dan arweiniad Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

Sut i gysylltu â Estyn:

Estyn
Llys yr Angor
Ffordd Keen
Caerdydd CF24 5JW

Ffôn: 029 2044 6446
Ffacs: 029 2044 6448
e-bost:
ymholiadau@estyn.gsi.gov.uk am ymholiadau cyffredinol
www.estyn.gov.uk
top

Dyslecsia

Beth yw Ddyslecsia?


Dyslecsia yw anhawster wrth ddysgu darllen, ysgrifennu a sillafu a all gael ei achosi gan gyfuniad o ddiffygion seinyddol, prosesau clywedol a gweledol. Gall anawsterau adalw geiriau a chyflymder prosesu fod yn bresennol hefyd. Bydd arwyddion dyslecsia mewn unrhyw unigolyn yn dibynnu, nid yn unig ar wahaniaethau gwybyddol unigol, ond hefyd ar yr iaith a ddefnyddir. Mae pob unigolyn dyslecsig yn wahanol, a dylai gael ei drin fel unigolyn.


Prosiect Dyslecsia Cymru


Y nod yw cynnig cyngor a chymorth i unigolion dyslecsig a'r rhai sy'n cael trafferthion, ar draws Cymru, naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg.
www.welshdyslexia.org


Cefnogaeth Gwaith Cartref

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn darparu Llinell Gymorth Cefnogi Gwaith Cartref. Mae'r gwasanaeth yma ar gael i ddisgyblion a'i rieni o Ddydd Sul i Ddydd Gwener 3 o'r gloch hyd 9 yr hwyr. Gellir cysylltu drwy ffonio 08712 300029, neu ddanfon neges destun i 07797 805607 neu e-bostio
post@gwaithcartref.com neu post@homeworkinwelsh.com
Cymorth Gwaith cartref
top

Cinio Ysgol

Rhaid i'r holl fwyd a ddarperir gan awdurdodau lleol gyrraedd y safonau maeth cenedlaethol. Mae'r rhain yn sicrhau bod plant yn derbyn diet iach a chytbwys. Mae'r canlynol yn ofynnol dan y safonau newydd, a gyflwynwyd ym mis Medi 2006:
  • Cig, dofednod neu bysgod olewog o ansawdd uchel ar gael yn rheolaidd
  • O leiaf dau ddogn o ffrwythau a llysiau gyda phob pryd
  • Bara, grawnfwyd arall a thatws ar gael yn rheolaidd
Hefyd, ceir rheolyddion ar y bwydydd canlynol:
  • Mae bwydydd wedi'u ffrio wedi'u cyfyngu i ddau ddogn neu lai'r wythnos
  • Mae diodydd melys, creision, siocled a phethau da eraill wedi'u tynnu o brydau bwyd a pheiriannau gwerthu mewn ysgolion.
Cyflwynwyd safonau pellach ar gyfer bwyd heblaw cinio ym mis Medi 2007.

Prydiau Ysgol am Ddim

Efallai y bydd eich plentyn yn gymwys i gael cinio neu laeth am ddim, neu y caiff ffrwythau a llysiau am ddim yn yr ysgol. Rhaid i awdurdodau lleol ddarparu cinio am ddim i blant cymwys, prydau y telir amdanynt os gofynnir am hynny, a goruchwyliaeth a chyfleusterau da er mwyn i blant fwyta'n ddiogel.

Mae prydau ysgol am ddim ar gael yn unig i'r plant hynny y mae eu rhieni/gwarcheidwaid yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol:
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)
  • Cymorth o dan ran V1 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches
  • Elfen Warant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • Credyd Treth Plant, ond NID YDYNT yn derbyn dim Credyd Treth Gwaith, ac nid yw eu hincwm blynyddol (yn ôl asesiad Cyllid y Wlad) yn fwy na £16,040 (o 6ed Ebrill 2009 ymlaen)
I ble ydw i'n gwneud cais am Brydau Ysgol am Ddim?

Mae'n rhaid gwneud cais i'r Awdurdod Lleol lle mae'r ysgol. Os yw'r plentyn yn mynychu ysgol yn Sir Gaerfyrddin, yna mae'n rhaid gwneud cais i'r adran ganlynol:

Adran Prydau Ysgol am Ddim
Business Support Unit
Parc Dewi Sant
Heol Ffynnon Job
Caerfyrddin

Sut ydyw’n gwneud cais am Brydau Ysgol am Ddim?

I wneud cais am Brydau Ysgol am Ddim gallwch:
Bocs Bwyd: Syniadau iachus ar gyfer bocs bwyd
top


Os oes unrhyw beth yn anghywir neu allan o ddyddiad neu gall gael ei gynnwys yma anfonwch e-bost atom: gwybplant@sirgar.gov.uk

Mae pob ymdrech wedi’i gymryd i sicrhau fod y wybodaeth yma yn gywir, ni all Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd derbyn Cyfrifoldeb neu atebolrwydd am unrhyw gamgymeriadau. Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu gyda’r darparwyr er mwyn sicrhau fod eu gwasanaeth yn ateb eich gofynion.

Ni all Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd argymell unrhyw un o’r darparwyr a rhestrwyd.

English : Cartref : Cyflogaeth Addysg & Hyfforddiant : Yr Amgylchedd : Y Teulu a Pherthnasau : Iechyd & Gofal Cymdeithasol : Tai : Y Gyfraith a Hawliau : Cyngor Ariannol : Chwaraeon & Hamdden : Cwestiynau Ynglyn â Gofal Plant : Datblygiad Plentyn : Diogelwch Plant : Addysg a Hyfforddiant : Gwasanaethau Teuluol : Iechyd a Lles : Gwasanaethau ariannol a Chyfreithiol : Chwarae, Chwaraeon a Hamdden : Llinellau Cymorth Cenedlaethol a Lleol : Amddiffyn Plant : Adnoddau : Hyfforddiant : Gwasanaethau yn Sir Gâr : Swyddi & Swyddi gwag

Site Meter