| Cysylltwch â ni:
|
Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluoedd
Ffon: 01267 246555
Neges destun GGD: Dechreuwch eich neges gyda ‘Plant’ os gwelwch yn dda a'i ddanfon at 07786 202747
Ffacs: 01267 246745
e-bost gwybplant@sirgar.gov.uk
|
|
Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluoedd Sir Gaerfyrddin
Cychwynnodd y gwasanaeth yma yn wreiddiol yn 2003 fel un o’r 22 Gwasanaeth Gwybodaeth i Blant ar draws Cymru, er mwyn darparu gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd am ofal plant i rieni a darpar rieni o fewn eu Sir.
Yn 2008 ail enwyd y gwasanaeth yn genedlaethol fel y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD). Mae pob awdurdod lleol o fewn Cymru wedi derbyn amodau newydd oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru i ledaenu'r ystod o wybodaeth a chefnogaeth y meant yn ei darparu.
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin yn darparu gwasanaeth dwyieithog, cyngor diduedd a chyfarwyddyd ynglyn â gofal plant a materion ynghlwm a chefnogaeth deuluol.
Ydych chi’n edrych am ofal plant?
Os yr ydych defnyddiwch y cyfleuster chwilio canlynol:
Cyfleuster Chwilio Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2011-14
Dogfen Grynodol
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cynnal ail Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant yn ddiweddar i fesur faint o alw a darpariaeth gofal plant sydd yn lleol yn unol â Deddf Gofal Plant 2006.
Rydym wedi llunio dogfen grynodol o'r Asesiad llawn sy'n amlinellu'r prif gasgliadau, y bylchau mewn gofal plant a'r argymhellion a awgrymir.
Mae'r ddogfen Grynodol yn destun YMGYNGHORI ar hyn o bryd. Gellir gweld y ddogfen hon drwy glicio ar y cyswllt.
Hoffwn glywed gennych a'ch annog i lenwi'r Ffurflen Ymateb erbyn 18ain Ebrill 2011.
Fersiwn drafft o Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2011-14, Dogfen Grynodol, Ffurflen Ymateb i'r Ymgynghoriad
Byddwn yn coladu ac yn rhoi ystyriaeth briodol i'r holl ymatebion wrth lunio fersiwn terfynol o'n Hasesiad.
Mae hwn yn Asesiad pwysig a bydd yn ein helpu i gynllunio datblygiad darpariaeth gofal plant yn strategol dros y tair blynedd nesaf...gwnewch yn siwr eich bod yn dweud eich dweud!
Bydd yr Asesiad terfynol a'r Cynllun Gweithredu sy'n gysylltiedig ag ef ar gael i'w gweld ar y dudalen hon o'n gwefan tua diwedd Mai 2011.
|
| Newyddion diweddara trwy twitter | |
|
| Helpwch ni |  |
|
Os oes ganddo’ch unrhyw awgrymiadau neu syniadau a all gwella neu ychwanegu at y wybodaeth sydd ar y wefan yma yna e-bostiwch gwybplant@sirgar.gov.uk
|
|