| Cysylltwch â ni:
|
Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluoedd
Ffon: 01267 246555
Gwasanaeth tecst GGD: Dechreuwch eich neges gyda ‘Plant’ a’i anfon i 07786 202747
Ffacs: 01267 246745
e-bost gwybplant@sirgar.gov.uk
|
|
Amddiffyn Plant
| Beth gallaf wneud os wyf yn poeni am les plentyn?
| Rheoliadau Gofal Plant
Beth gallaf wneud os wyf yn poeni am les plentyn?
Os ydych yn amau bod plentyn yn cael ei gam-drin/esgeuluso, yna cysylltwch â’r Tîm Asesu Gwasanaeth Cymdeithasol lleol cyn gynted a phosib:
Llanelli 01554 742322
Caerfyrddin / Dinefwr 01558 825485
Neu
Gwasanaethau Argyfwng Tu allan i Oriau Arferol (os fydd problem yn codi
tu allan i oriau Swyddfa arferol a ddim yn gallu aros dan y diwrnod gwaith
canlynol)
01558 824283
Cysylltiadau defnyddiol arall:
Bwrdd Lleol Diogelu Plant 01267 246544
NSPCC llinell gymorth 0808 100 2524
Heddlu Dyfed-Powys 0845 330 2000
Hefyd mae llyfryn GGD Gwybodaeth a Chyfarwyddyd I Ddarparwyr Gofal Plant a Sefydliadau Gwirfoddol yn Sir Gaerfyrddin ar gael i lwythio lawr oddi ar wefan:
www.partneriaethplantsirgar.org.uk
Rheoliadau Gofal Plant
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)
Mae AGGCC yn annog gwelliant ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cymdeithasol drwy:
- reoleiddio,
- arolygu a adolygu,
- cynnig cyngor proffesiynol i Weinidogion a a’r rhai sy’n llunio polisïau.
Mae AGGCC yn gwneud asesiadau a dyfarniadau proffesiynol ynghylch gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gwasanaethay cymdeithasol, a thrwy hynny annog gwelliannau gan ddarparwyr gwasanaethau.
Yr hyn sydd yn cael eu rheoleiddio gan AGGCC:
- Cartrefi gofal i oedolion – gan gynnwys cartrefi gofal sy’n darparu gofal nyrsio
- Asiantaethau gofal cartref
- Cynlluniau lleoli oedolion
- Asiantaethau nyrsys
- Cartrefi plant
- Gwasanaethau gofal dydd plant – gwarchodwyr plant, gofal dydd lawn, gofal dydd sesiynol, gofal tu allan i’r ysgol, darpariaeth crèche a chwarae mynediad agored
- Asiantaethau maethu sector cyhoeddus ac annibynnol
- Asiantaethau mabwysiadu sector cyhoeddus a gwirfoddol
- Ysgolion preswyl, Ysgolion arbennig preswyl a cholegau addysg bellach sy’n lletya myfyrwyr o dan 18 oed
- Canolfannau preswyl i Deuluoedd
wales.gov.uk/cssiwsubsite/newcssiw
Lleolir Swyddfa lleol AGGCC Sir Gaerfyrddin yn:
Adeilad y Llywodraeth
Teras Picton
Caerfyrddin SA31 3BT
Ffôn: 01267 245160
Ffacs: 01267 245140
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch sut y gweithredir y Safonau Minimwm Cenedlaethol, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002, gan gynnwys areweiniad ynghylch y Safonau, ar gael ar wefan AGGCC:
wales.gov.uk/cssiwsubsite/newcssiw

|